Newyddion cyffrous o Ysgol y Preseli!
Mae’n bleser gennym ddweud ein bod yn treialu ‘Show My Homework’(SMHW) adnodd arlein i helpu disgyblion, rhieni ac athrawon i reoli gwaith cartref. Bydd SMHW yn galluogi rhieni a disgyblion i weld manylion y tasgau sydd wedi’u gosod fel gwaith cartref, ynghyd â dyddiadau cyflwyno’r gwaith.
Bydd Ysgol y Preseli yn peilota SMHW o fis Medi ymlaen a gobeithiwn
bydd y gwasanaeth hwn yn darparu gwell dealltwriaeth i rieni o’r gwaith cartref
a osodir i’w plant. Yn bwysicach fyth , hyderwn y bydd yr adnodd hwn yn fodd i
wella sgiliau amseru a threfniadaeth eich plentyn, ynghyd â’u helpu i ymdopi’n
effeithiol â’u llwyth gwaith.
Byddwch yn derbyn llythyr o'r ysgol sy'n cynnwys enwau’r staff sydd wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y peilot, ac edrychwn ymlaen i glywed eich adborth chi am yr adnodd hwn.
Edrychwn ymlaen i lansio'r peilot ar ddechrau mis Medi; os yr ydych yn dymuno rhagflas o'r adnodd cyn hyn, clicwch ar www.showmyhomework.co.uk/.
No comments:
Post a Comment
Note: only a member of this blog may post a comment.