30.8.16

A faster and smarter way to help us manage homework @ Ysgol y Preseli!

Exciting News from Ysgol y Preseli!

We are excited to be trialling Show My Homework’(SMHW), an online tool to help you view your child’s homework. SMHW  will allow you to see the details of the tasks your child has been set, and more importantly, we hope that it will improve your child's organisation, time-management and help them to keep on top of their work. 



Ysgol y Preseli will be piloting SMHW from September and we hope that this service will provide parents and guardians with a clear insight into the homework their child receives. You will receive a letter from the school which will include the names of the teachers that are volunteering to take part in this pilot, and we look forward to hearing your feedback about this innovative resource. The letter will include all necessary details for you and your child to log in. 

We look forward to launching SMHW soon. If you would like a preview, or would like to understand more, please visit www.showmyhomework.co.uk/.

Ffordd gyflymach a mwy craff o reoli gwaith cartref yn Ysgol y Preseli!

Newyddion cyffrous o Ysgol y Preseli!

Mae’n bleser gennym ddweud ein bod yn treialu ‘Show My Homework’(SMHW) adnodd arlein i helpu disgyblion, rhieni ac athrawon i reoli gwaith cartref. Bydd SMHW yn galluogi rhieni a disgyblion i weld manylion y tasgau sydd wedi’u gosod fel gwaith cartref, ynghyd â dyddiadau cyflwyno’r gwaith. 



Bydd Ysgol y Preseli yn peilota SMHW o fis Medi ymlaen a gobeithiwn bydd y gwasanaeth hwn yn darparu gwell dealltwriaeth i rieni o’r gwaith cartref a osodir i’w plant. Yn bwysicach fyth , hyderwn y bydd yr adnodd hwn yn fodd i wella sgiliau amseru a threfniadaeth eich plentyn, ynghyd â’u helpu i ymdopi’n effeithiol â’u llwyth gwaith. 

Byddwch yn derbyn llythyr o'r ysgol sy'n cynnwys enwau’r staff sydd wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y peilot, ac edrychwn ymlaen i glywed eich adborth chi am yr adnodd hwn. Fe ddarperir i chi fanylion mewngofnodi i’ch cyfrif personol a fydd wedi’i gysylltu gydag amserlen gwaith cartref eich plentyn hefyd.

Edrychwn ymlaen i lansio'r peilot ar ddechrau mis Medi; os yr ydych yn dymuno rhagflas o'r adnodd cyn hyn, clicwch ar www.showmyhomework.co.uk/.